WEDI i BWYLLGOR NEWYDD ddod i reoli'r ganolfan yn 1976 aethpwyd ati i greu arddangosfa newydd. Agorwyd hon yn swyddogol gan yr Arglwydd Davies o Landinam yn 1982.
Roedd y paneli yn dangos rhywfaint o hanes Cymru yn y Canol Desoedd a'r cefndir i wrthryfel Owain Glyn Dŵr. Dangoswyd cysylltiad Glyn Dŵr gyda thywysogion Cymru a hanes ei frwydrau wedi 1400. Gwelwyd hefyd ei gysylltiadau gyda'r Alban a Ffrainc ac wrth gwrs y Senedd hanesyddol ym Machynlleth yn 1404. I Fachynlleth daeth cynrychiolwyr o sawl rhan o Gymru yn ogystal â Ffrainc, yr Alban a Castile i weld Glyn Dŵr yn cael ei goroni yn Dywysog Cymru. 'Roedd paneli eraill yn cyfeirio at Lythyr Pennal (5 milltir o Fachynlleth) a ddanfonwyd at frenin Ffrainc yn 1406 ac yn egluro gweledigaeth Glyn Dŵr a'i weinidogion yn eu bwriad i sefydlu Eglwys annibynnol a chreu prifysgolion yng Nghymru [meistr gopi - gweler Datblygiadau 2009].
Ar hyn o bryd mae’r arddangosfa yn cynnwys lluniau gan Mark Hodge sydd yn arlunydd lleol a chyfraniadau gan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn y Senedd-dy mae murlun pwysig Murray Urquhart yn arddangos Brwydr Hyddgen 1402. Dyma'r unig furlun mawr o'i fath a wnaed yng Nghymru cyn 1914. Gellir gweld hyn i gyd am £1.50 yn unig i oedolion ac £20 i grwpiau ysgolion, colegau a bysiau.
Mae'r cynlluniau datblygu gafodd eu cyflwyno i Gronfa Treftadaeth y Loteri yn costio o gwmpas £3.8 miliwn. Ni fydd Cronfa Treftadaeth y Loteri yn cyfrannu'r cyfan o'r arian ychwanegol, ac felly bydd rhaid gwneud apêl am rai cannoedd o filoedd o bunnoedd.
Os daw'r arian i law bwriad y pwyllgar yw creu arddangosfa fodern yn defnyddio'r dulliau cyfathrebu mwyaf diweddar er mwyn:-
|
|
esbonio hanes a phwysigrwydd Owain Glyn Dŵr. Dyma fydd prif arddangosfa hanes Owain Glyn Dŵr.
|
|
|
amlinellu hanes yr adeilad
|
|
|
cynnig lle i CCGC a CBHC yn yr arddangosfa
|
|
|
cynnig cyfleon i bobl leol ddefnyddio rhannau o'r adeilad.
|
Y bwriad yw cael ystafelloedd clyweled ac addysg. Hefyd bydd ystafelloedd ar gyfer paned, a siop. Ein her arbennig bydd gosod lifft mewn adeilad mor hanesyddol. Ein gobaith yw gweld y cynlluniau yn cael eu gwireddu dros y blynyddoedd nesaf.