O
t: +44(0)1654 702932
e: canolfanowain@btconnect.com
Cartref : Home.Cymraeg.English.Map.Oriel : Gallery.Cyswllt : Contact.
Canolfan Owain Glyn Dŵr Centre
Heol Maengwyn
Machynlleth
Powys
SY20 8EE
Gyda chymorth Swyddfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Canolbarth llwyddwyd i gwblhau Amcangyfrifon Cyllidol realistig ar gyfer pum mlynedd cyntaf yr Arddangosfa. Diolch i Kathrine Johnson am ei gwaith.

Yn yr un cyfnod, cafwyd cymorth gan Ymgynghorydd y Dyniaethau wrth lunio’r Naratif . Diolchwn iddi am roi o’i hamser gwyliau i’n cynorthwyo.

Bu cyfarfodydd defnyddiol gyda nifer o fudiadau. Cafwyd cyngor ac awgrymiadau gan Croeso Cymru ar sut gallem gydweithio yn y dyfodol. Ym mis Rhagfyr daeth y Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant, Rhodri Glyn Thomas i Fachynlleth i drafod ein cais. Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, cafodd y Pwyllgor Datblygu drafodaethau rhagarweiniol gyda swyddogion Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Ar yr un diwrnod, aeth y Ddirprwyaeth i swyddfeydd cwmni INDUS, y cwmni a greodd y gyfres lwyddiannus, “Coal House”. Cawsom awgrymiadau gwerthfawr ar sut i ddefnyddio’r cyfryngau yn ystod yr ymgyrch gan y Cadeirydd, Paul Islwyn Thomas. (Oriel am fanylion)

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru eisoes yn cyfrannu i’r arddangosfa yn y Senedd dy. Daeth llythyr gan y Prif Weithredwr yn nodi bydd CCGC yn ffurfio partneriaeth hir dymor gyda Canolfan Owain Glyn Dŵr. Cawsom drafodaethau adeiladol ar yr hyn bydd CCGC yn gallu ei gyfrannu yn y tymor byr ac hefyd yn yr arddangosfa newydd. Mae Machynlleth ar Lwybr Cenedlaethol Glyn Dŵr.

2008:  Gwefan a Digwyddiadau

Gyda chymorth Nigel Thomas o Sir Fôn trawsnewidiwyd y wefan yn un rhyngweithiol a deniadol.

Cafwyd Grant defnyddiol o ychydig llai na £6,000 o arian cyfatebol gan Gyngor Sir Powys. Bu hyn o gymorth wrth gyflogi gweithwyr y Dderbynfa am gyfnod estynedig a gwella’n cyfathrebu technolegol.

Derbyniwyd £1,000 gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen oedd yn hwyluso paentio ac addurno’r Institute.

Derbyniwyd £300 gan Cylch Cinio Aberystwyth yn ystod haf  2008 fel cyfraniad at greu Canolfan Genedlaethol Owain Glyn Dŵr.


Cytunodd Alun Wyn Jones, ail reng  y Gweilch a Chymru ddod i gefnogi’r ymgyrch i sefydlu Canolfan Genedlaethol. Daeth i Glwb Rygbi Machynlleth ar Orffennaf 5 ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ac Arwerthiant. ‘Rydym yn ddiolchgar iddo ef a’i fam am eu cefnogaeth.

Ym mis Medi, yn ystod yr wythnos sydd yn cynnwys Dydd Glyn Dŵr, sef Medi 16, cynhaliwyd Gwyl Glyn Dŵr yn y dref. Trefnwyd Talwrn y Beirdd a Drama ddwyieithog am Glyn Dŵr yn ogystal ag ymweliadau ag ysgolion lleol gan Twm Morys a Mei Mac. Trefnwyd y gweithgareddau gan y Gwylltiaid.

Daeth ein cefnogwr o Sussex i’r Ganolfan ym mis Ebrill ac aethpwyd ag ef i weld safle buddugoliaeth Glyn Dŵr ym  Mrwydr Hyddgen yn 1401. Diolchwyd iddo am ei rodd caredig gan Bob Dunn, Maer Machynlleth ac hefyd Clerc y Cyngor, John Parsons.       
 
2009:

Mae’r Ganolfan wedi elwa eleni eto o ddyfarniadau grant gan asiantaethau arbennig.

Cafwyd grant o £1,600 gan Cymunedau yn Gyntaf. Bydd yr arian yn cael ei wario ar dderbyn cyngor gan arbenigwyr ym maes Codi Arian, ar adeg o gynni ariannol.

Arian i Bawb ddyfarnodd £4,900 i’r Ganolfan i gydweithio gyda Amgueddfa Llangollen ac Abaty Glyn y Groes. Ein bwriad yw creu Llinell Amser rhyngweithiol yn olrhain hanes a chymynrodd Owain Glyn Dŵr.

Calonogwyd y Ganolfan gan nifer o ddatblygiadau arwyddocaol eraill:-
  • Trwy sefydliad CyMAL, mae’r Ganolfan wedi derbyn copi gwych o Lythyr Pennal a ddanfonwyd at Frenin Ffrainc yn 1406. Gwnaed y copi gan Julian Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Aeth cynrychiolwyr y Ganolfan i dderbyniad yn y Senedd ar Fawrth 31ain pan gyflwynwyd copi o’r Llythyr i Gadeirydd y Ganolfan, Mr Henry Evans, gan y Gweinidog Diwylliant a Threftadaeth, Alun Ffred Jones A.C.
     
  • Mae CADW wedi cynnwys y Ganolfan fel un o’r safleoedd o ddiddordeb hanesyddol arbennig sydd i elwa fel rhan o’r Fenter Treftadaeth Ddiwylliannol. Ein gobaith yw derbyn cyllid i hybu marchnata a chyhoeddusrwydd i’r Ganolfan.
     
  • Daeth cynrychiolydd Cymdeithas Owain Glyn Dŵr i’r Ganolfan ym mis Chwefror i ddechrau trefnu y Cyfarfod Blynyddol sydd i’w gynnal ym Machynlleth ym mis Medi.
     
  • Lluniwyd hysbysfwrdd atyniadol gan Bryan Davies o Fforwm Hanes Cymru. Mae’n dangos ei ddehongliad o Frwydr Pilleth / Bryn Glas 1402 ac mae i’w weld yn yr arddangosfa. Hysbysfwrdd newydd arall yw’r un a grewyd gan Hedd Bleddyn a Dafydd Evans. Mae’n dangos yr unigolion a’r mudiadau lleol a Chenedlaethol sydd yn cefnogi’r ymgyrch i greu Canolfan Genedlaethol i Owain Glyn Dŵr
     
  • Cawsom ymwelydd arbennig ar Fawrth 26ain. Daeth Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan A.C. i edrych ar yr arddangosfa bresennol a thrafod ein cynlluniau.

bar

© 2008 Canolfan Owain Glyn Dŵr Centre