© 2008 Canolfan Owain Glyn Dŵr Centre

O
t: +44(0)1654 702932
e: canolfanowain@btconnect.com
Canolfan Owain Glyn Dŵr Centre
Cartref : Home.Cymraeg.English.Map.Oriel : Gallery.Cyswllt : Contact.
Heol Maengwyn
Machynlleth
Powys
SY20 8EE
YN YSTOD HAF 1404 bu cyfarfod unigryw ym Machynlleth. Daeth cynrychiolwyr o sawl rhan o Gymru ynghyd a chenhadon  Ffrainc, yr Alban a Castile (Sbaen) i weld Owain Glyn Dŵr yn cael ei goroni yn dywysog ar Gymru annibynnol. Ym Machynlleth 'roedd ei Lywodraeth o'i gwmpas yn cynnwys dynion megis John Trefor, Esgob Llanelwy a John Byfield, Esgob Bangor.

Pam cyfarfod yn Machynlleth?

Er na fedrwn fod yn hollol sicr o'r rhesymau, mae sawl ffactor yn awgrymu pam y dewisodd y lleoliad yma:-

Ÿ
'Roedd yr afon Dyfi yn cael ei hystyried fel ffin naturiol rhwng Gogledd a De Cymru.
Ÿ
I Aberdyfi y galwodd Llywelyn Fawr dywysogion eraill Cymru yn 1216 i dyngu llw o ffyddlondeb i'w fab. Naw milltir sydd rhwng Aberdyfi a Machynlleth.
Ÿ
Mae Machynlleth yng nghanolbarth Cymru ac nid oedd castell Seisnig yno.

Ychydig o filtiroedd i ffwrdd, ym mhentref Pennal, lluniodd Glyn Dŵr a'i lywodraeth y llythyr a ddanfonwyd at Frenin Ffrainc yn 1406. 'Roedd yn cydnabod dilysrwydd y Pâb yn Avignon ond yn disgwyl i Frenin Ffrainc gefnogi sefydlu dau brifysgol yng Nghymru ac eglwys annibynnol i Gymru.

Mae'r gefnogaeth eang a gafodd yng Nghymru a gan arweinwyr gwledydd eraill yn ystod y gwrthryfel, a'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn ei osed ar wahan i dywysogion eraill Cymru *

A oedd y gwrthryfel yn anochel? Nac oedd.

'Roedd Dwain wedi ei hyfforddi i fod yn gyfreithiwr yn Llundain (Inns of Court). Ei dad yng nghyfraith oedd Syr David Hanmer a oedd wedi agor drysau bonedd Lloegr i Owain. 'Roedd Owain wedi ei hyfforddi i fod yn farchog.

Yn yr 1380au bu Owain yn ymladd ym myddin Rhisiart yr Ail. Erbyn yr 1390au 'roedd yn sgweiar cysurus ei fyd yn rhannu ei fywyd rhwng ei ystadau yng Nglyndyfrdwy a Sycharth.

Felly, y cwestiynau mawr yw:

Beth ddigwyddodd yn 1399/1400 yn Lloegr a Chymru a newidiodd meddylfryd Owain? Pam ddaeth llawer o deulu pwysig yr Iorciaid i'w gefnogi trwy briodas ac yn filwrol? Pam oedd Brenin Ffrainc yn ei gefnogi ac yn danfon byddin i Gymru yn 1405?

Am atebion dowch i’r Ganolfan i ddilyn hanes y dyn rhyfedd hwn.

Owain Glyndwr
Sel Glyndwr
Flag Glyndwr